Mae ei hardal yn cwmpasu saith Awdurdod Lleol:
-
Pen-y-bont ar Ogwr
-
Caerdydd
-
Merthyr Tudful
-
Castell-nedd Port Talbot
-
Rhondda Cynon Taf
-
Abertawe
-
Bro Morgannwg
Aelodau
Mae ein 19 aelod yn cynnwys:
-
Deg Cynghorydd - un o bob Awdurdod Lleol gydag aelod ychwanegol o Gaerdydd, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe, fel yr ardaloedd mwyaf
-
Naw Aelod Annibynnol - a benodir yn dilyn hysbyseb cyhoeddus.
Am ragor o wybodaeth am yr Aelodau, yn cynnwys pwy yw eich cynrychiolydd lleol,
cliciwch yma.
Ein Gweledigaeth
Mae’r Awdurdod Heddlu a'r Llu wedi pennu cydweledigaeth sef
Cadw De Cymru'n Ddiogel.
Mae De Cymru eisoes yn lle diogel iawn i fyw, gyda ffigurau troseddu isel. Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i gynnal hyn a gwneud De Cymru hyd yn oed yn fwy diogel.
Cyfrifoldebau Allweddol
Mae prif ddyletswyddau’r Awdurdod yn cynnwys:
-
Ymgynghori â'r gymuned leol
-
Pennu elfen praesept yr heddlu o’r dreth gyngor leol a gosod y gyllideb gyffredinol
-
Penderfynu ar y blaenoriaethau plismona ar gyfer y flwyddyn mewn cytundeb gyda'r llu a'r gymuned
-
Penodi ac, os bydd angen, ddiswyddo Prif Swyddogion yr Heddlu, yn cynnwys y Prif Gwnstabl.
Am ragor o wybodaeth am ein rolau a'n cyfrifoldebau,
cliciwch yma.