Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
‘Nid yw cydraddoldeb yn golygu bod yn debyg, ac ni ddylai cymdeithas gydradd geisio gorfodi pawb i’r un ffrâm. I’r gwrthwyneb mae’r dyhead am gydraddoldeb ynglyn â grymuso pobl i fyw eu breuddwydion, i fod eu hunain ac i fod yn wahanol, os mai dyna yw eu dymuniad’
Tegwch a Rhyddid: Adroddiad Terfynol yr Adolygiad o Gydraddoldeb (2007)
Mae De Cymru yn cynnwys cymunedau cyfoethog ac amrywiol ac mae’n bwysig bod gan bawb ymddiriedaeth a hyder ynom.
Y Llinynnau Cydraddoldeb
Mae’n egwyddor sylfaenol y dylai’r Awdurdod yn ymdrechu i sicrhau bod y rhai hynny sy’n gweithio gyda ni neu sy’n ymwneud â ni yn teimlo bod croeso iddynt ac ni wahaniaethir yn eu herbyn mewn unrhyw fodd oherwydd unrhyw un o’r canlynol:
-
Oedran
-
Anabledd (yn cynnwys anableddau corfforol, meddyliol, synhwyraidd a dysgu)
-
Rhyw (yn cynnwys dynion, menywod a phobl drawsrywiol/ trawsryweddol)
-
Hil (yn cynnwys hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig)
-
Crefydd a chred
-
Cyfeiriadedd rhywiol
Yng Nghymru ystyrir yr iaith Gymraeg hefyd yn llinyn cydraddoldeb.
Fel Awdurdod rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo amrywiaeth ar draws y llu ac o fewn ein gwaith ni’n hunain. Mae’r tudalennau sydd yn yr adran hon yn rhoi manylion am y gwaith a wnawn ar gydraddoldeb, yn ogystal â Hawliau Dynol.